Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd.
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Mawrth 2023
Amser:
14:00 - 15:50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13255
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Ben Saltmarsh, Secretariat, NEA Cymru Luke Young, Cyngor ar Bopeth Dean Kirby, Journalist Bethan Sayed, Climate Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Lorna Scurlock |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Sesiwn dystiolaeth 1- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Sayed, y deisebydd a chydlynydd ymgyrch Cadwch yn Gynnes y Gaeaf Hwn, Climate Cymru, Ben Saltmarsh, Pennaeth Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru a Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i:
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach ynghylch yr amserlen ar gyfer sefydlu Comisiwn i fwrw ymlaen â’r rhan fwyaf o’r argymhellion.
4.2 P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunyddiau tyfu erbyn 2023
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried y ffaith bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi ymrwymo i wahardd gwerthu compost mawn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar ymgyrch a chanlyniad llwyddiannus.
4.3 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am ymateb i gwestiynau ychwanegol y deisebydd.
4.4 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y gymuned leol. Fodd bynnag, o ystyried bod adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd yn dweud yn glir na fydd cynllun ffordd osgoi Llanbedr yn mynd rhagddo a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei pharodrwydd i weithio gyda Chyngor Gwynedd a bod cyfarfodydd wedi’u trefnu gyda’r gymuned leol i ystyried dulliau eraill o ymdrin â’r anawsterau, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.
4.5 P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i dynnu eu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a ydynt wedi cymryd camau i ymdrin â’r broblem y mae’r ddeiseb yn sôn amdani ac, os felly, beth yw’r camau hynny.
4.6 P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried bod y Cynllun Gwella Canser wedi’i gyhoeddi, a bod hwn yn cydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu ac yn rhoi pwyslais ar wella, cytunodd yr aelodau i gau’r ddeiseb.
4.7 P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried ymateb yr RSPB a'r deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r cod statudol a'r rheoliadau ynghylch llosgi dan reolaeth, gan sicrhau eu bod yn gydnaws ag amcanion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a Thir Cynaliadwy.
5 Sesiwn dystiolaeth 2- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dean Kirby, newyddiadurwr gyda phapur newydd yr ‘i’.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunwyd y byddai'n gwahodd Ofgem, Nwy Prydain, Scottish Power ac Energy UK i roi tystiolaeth yn ei gyfarfod nesaf ar 24 Ebrill.